Cyflafan Jallianwala Bagh

cyflafan yn y Pwnjab, pan laddwyd 379 o sifiliaid di-arf ac anafwyd rhwng 1200 a 1500.

Ar 13 Ebrill 1919, lladdwyd 379 o sifiliaid di-arfau, heddychol ac anafwyd rhwng 1,200 a 1,500,[1] yn yr hyn a elwir heddiw yn Gyflafan Jallianwala Bagh (adnabyddir hefyd fel Amritsar massacre), Jallianwala Bagh, Amritsar, Punjab (India). Cerdded yn heddychlon, fel rhan o ddathliadau gŵyl grefyddol-ddiwylliannol Baisakhi oedd y dorf o bererinion, heb yr un arf rhyngddynt. Yn ddirybudd, taniodd milwyr 'Prydeinig' atynt gan greu cyflafan waedlyd.

Cyflafan Jallianwala Bagh
Enghraifft o'r canlynolllofruddiaeth torfol Edit this on Wikidata
Dyddiad13 Ebrill 1919 Edit this on Wikidata
Lladdwyd379 Edit this on Wikidata
LleoliadJallianwala Bagh Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Raj Prydeinig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Amdiffyniad y fyddin Brydeinig yn India oedd iddynt osod gwahardd ar gerdded fel hyn, dan amodau 'cyfraith rhyfel', ond nad oedd y cyhoeddiad hwnnw wedi'i wneud. Nid oedd yr un o'r dorf yn ymwybodol o'r gorchymyn hwn.

Reginald Edward Harry Dyer, o Goleg Brenhinol Sandhurst, y swyddog a oedd yn gyfrifol am y gorchymyn i danio ac a wnaed yn arwr cenedlaethol gan y Sais.

O bum mynediad (gweler y llun ar y dde, uchod) i sgwâr 7 acr (28,000 m2) gyda waliau uchel o'i gwmpas, dechreuodd y milwyr danio, a pharhaodd hynny am gyfnod o ddeg munud.[2] Yn ystod y dyddiau yn dilyn hyn, cyhoeddodd y Fyddin Brydeinig fod 379 wedi'u lladd a 1,200 wedi eu hanafu.[1][3] Yn ôl eraill, lladdwyd dros 1,000. Syfrdanwyd y genedl gyfan a llawer o wledydd eraill "gan greulondeb y Sais".[4] O ganlyniad troed yn erbyn gafael Lloegr yn y wlad gan y trigolion lleol.[5]

Cafwyd ymchwil i'r mater ac amddiffynnwyd Dyer gan Dŷ'r Arglwyddi cymaint nes troi'n betrol ar dân, a gwaethygodd y sefyllfa ac o hyn y ganwyd y Mudiad Gwrthod Cydweithredu a fu yn eu hanterth rhwng 1920 a 1922.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "1919 Jallianwalla Bagh massacre". Discover Sikhism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-28. Cyrchwyd 7 Mehefin 2016.
  2. Report of Commissioners, Vol I, II, Bombay, 1920, Reprint New Delhi, 1976, t 56.
  3. Nigel Collett (15 Hydref 2006). The Butcher of Amritsar: General Reginald Dyer. A&C Black. t. 263. ISBN 978-1-85285-575-8.
  4. Bipan Chandra etal, India's Struggle for Independence, Viking 1988, t.166
  5. Barbara D. Metcalf and Thomas R. Metcalf (2006). A concise history of modern India. Cambridge University Press. t.169
  6. Collett, Nigel (2006). The Butcher of Amritsar: General Reginald Dyer. tt. 398–399.