Baldock

tref yn Swydd Hertford

Tref farchnad yn Swydd Hertford, Dwyrain Lloegr, ydy Baldock.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Gogledd Swydd Hertford. Saif yn union i'r dwyrain o Letchworth.

Baldock
Mathtref farchnad, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Gogledd Swydd Hertford
Gefeilldref/iEisenberg (Pfalz), Sanvignes-les-Mines Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Hertford
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.99°N 0.19°W Edit this on Wikidata
Cod OSTL247337 Edit this on Wikidata
Cod postSG7 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Baldock boblogaeth o 10,280.[2]

Sefydlwyd Baldock fel tref farchnad gan Urdd y Deml tua 1148 ar safle anheddiad cynharach o'r Oes yr Haearn a chyfnod Rhufeinig. Yn nyddiau'r goetsh fawr, hyd nes dyfodiad y rheilffordd, ffynnodd tafarndai oherwydd safle'r dref ar groesffyrdd Ffordd Fawr y Gogledd a Stryd Icknield.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 21 Mehefin 2020
  2. City Population; adalwyd 21 Mehefin 2020
  3. Gwefan Baldock Museum & Local History Society; adalwyd 21 Mehefin 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Hertford. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato